Mae clinigwr EMRTS wedi cwblhau cyfres o heriau proffesiynol i gael statws Ymarferydd Gofal Critigol Cymwysedig (QCCP) yn ffurfiol.
Cymerodd Derwyn Jones, sy'n gweithio o ganolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, ran yn Llwybr Datblygu Ymarferydd Gofal Critigol (CCP) EMRTS dros sawl blwyddyn, sy'n gofyn am ymrwymiad parhaus ar draws ymarfer clinigol, datblygu portffolio, asesu a datblygiad proffesiynol parhaus.
Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Clinigol EMRTS, Jason Hughes: “Drwy gydol y broses hon, mae Derwyn wedi dangos ymroddiad, gwydnwch a phroffesiynoldeb eithriadol.
“Mae ei ymrwymiad i ddysgu a datblygiad parhaus, ochr yn ochr â’i gyfraniadau at ddarpariaeth weithredol a chlinigol, wedi bod yn amlwg drwyddi draw, ac mae’r cyflawniad hwn yn haeddiannol iawn.
“Mae cwblhau’r llwybr yn adlewyrchu gwaith caled, ymrwymiad ac ymroddiad parhaus, ac mae’n gyflawniad arwyddocaol.”
Ychwanegodd: “Fel gwasanaeth, rydym yn hynod falch o weld Derwyn yn cyrraedd y garreg filltir bwysig hon ac yn cyflawni statws QCCP yn ffurfiol o fewn EMRTS.
“Rydym hefyd yn cydnabod nad dyma ddiwedd y daith, ond cam pwysig mewn llwybr proffesiynol parhaus. Edrychwn ymlaen at gefnogi Derwyn wrth iddo symud ymlaen i gam nesaf ei ddatblygiad, gan gynnwys dilysu fel Ymarferydd Uwch o fewn y Bwrdd Iechyd.
“Ymunwch â ni i longyfarch Derwyn ar y cyflawniad rhagorol hwn a dymuno pob llwyddiant iddo yng ngham nesaf ei yrfa.”