Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'r staff sy'n gadael Dydd Nadolig i ddarparu gwasanaeth brys dros wyliau tymhorol

Xmas Day workers 2023

Mae’r Nadolig bron yma, a bydd y rhan fwyaf ohonom yn gobeithio am amser gartref gyda’n teulu a’n hanwyliaid. Efallai y byddwn hefyd yn edrych ymlaen at ginio Nadoligaidd, cyfnewid anrhegion, ac efallai gwydraid o sieri neu ddau.

Ond er cymaint yr hoffem ni i gyd ymuno â’r dathliadau tymhorol, nid oes dim gadael i’r gwasanaethau brys, sy’n parhau i fod ar alwad 365 diwrnod y flwyddyn. Felly yn lle setlo i lawr o amgylch y bwrdd ar gyfer lledaeniad gyda'r holl drimins ar Ddydd Nadolig, bydd rhai o'n staff yn gwneud yr hyn y maent bob amser yn ei wneud - ymateb i ddigwyddiadau brys a chludo cleifion sy'n ddifrifol wael.

Dyma rai o'r rhai a fydd yn gohirio eu dathliadau Nadolig i wneud yn siŵr bod EMRTS ac ACCTS yn parhau i weithio bob awr o'r dydd dros wyliau'r Nadolig.

Carl Hudson, EMRTS Parafeddyg/Ymarferydd Gofal Critigol, 49 oed, Lleoliad gwaith: Caernarfon

CCP in front of helicopter

Mae'r tad i ddau o blant yn gweithio ar rheng flaen Gwasanaeth y GIG ers 30 o flynyddoedd, ac mae wedi treulio mwy na 20 o flynyddoedd o wasanaeth yn gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae wedi'i leoli yng nghanolfan Caernarfon ers dechrau Gweithrediadau Gogledd Cymru yn 2003.

Mae wedi gweithio ar Ddydd Nadolig sawl gwaith yn helpu i wasanaethu pobl Cymru ac mae'n dweud bod awyrgylch da ymysg y cydweithwyr bob amser.

Dywedodd Carl, 49 oed, o Ynys Môn: “Gan fy mod wedi gweithio fel parafeddyg rheng flaen drwy gydol fy mywyd fel oedolyn bron, mae gweithio ar Ddydd Nadolig yn rhan rwyf yn ei derbyn o'm bywyd gwaith.

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gweithio ar Ddydd Nadolig sawl gwaith, ac er y byddai'n well gan unrhyw un fod gartref gyda'u teulu na gweithio ar Ddydd Nadolig, dyw ddim mor ddrwg â hynny. Oherwydd yr oriau hir rydym yn eu gweithio, yn aml, byddwch chi'n gweld mwy ar eich cydweithwyr na'ch teulu, felly mae eich cydweithwyr yn cael eu hystyried fel eich ‘teulu gwaith’.

“Mae gennym dîm gwych. Y rhan fwyaf o ddiwrnodau, mae digon o chwerthin a chwmnïaeth, ac nid yw Dydd Nadolig yn wahanol. Byddwn ni'n prynu anrhegion bach gwirion i'n gilydd fel criw Dydd Nadolig, byddwn ni'n cael digon o ddanteithion blasus, ac fel arfer bydd cinio Nadolig yn cael ei baratoi i ni gan gaffi neu fwyty lleol, felly bydd y diwrnod mor debyg â phosibl i ddiwrnod gartref - yr unig eithriad yw bod y gwin a'r champagne yn cael ei ddisodli gan ddiod feddal cyrens duon a Shloer, ond allwch chi ddim cael popeth!

“Mae'n anochel yn y math hwn o waith ein bod yn gweld achosion eithriadol o drist, hyd yn oed ar Ddydd Nadolig, ac mae'r digwyddiadau hyn yn effeithio mwy fyth ar y criw yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig wrth i ni feddwl am y rhai yr effeithir arnyn nhw. Pan fyddwn yn ôl yn y ganolfan, yn aml bydd y tîm yn trafod y digwyddiad, gyda phaned o de fel arfer, ac yna byddwn ni'n ceisio symud ymlaen a pharatoi ar gyfer beth bynnag ddaw nesaf.

“Eleni, ar gyfer fy nheulu a minnau, byddwn ni'n dathlu Dydd Nadolig ar Ddydd San Steffan. Yn y math hwn o waith, bydd eich teulu'n derbyn bod cinio Nadolig y teulu yn wledd a all gael ei symud!

“Pan oedd fy mhlant yn iau, byddem yn codi pawb yn hurt o gynnar, am 4.30am, fel y gallwn agor anrhegion gyda'r plant a threulio rhywfaint o amser gwerthfawr gyda nhw cyn mynd allan i weithio am 12 awr. 

“Y dyddiau hyn, mae fy mhlant yn eu hugeiniau a byddan nhw'n dod adref o'r brifysgol, felly gallwn ni agor ein hanrhegion pan fydda i'n dod adref o'r gwaith ar Ddydd Nadolig tua 9pm, felly nid oes angen y boreuau cynnar mwyach. Diolch byth!

“Byddwn i'n dweud, er y byddai'n well gennym ni fod gartref ar Ddydd Nadolig, rydym yn derbyn yn ein gyrfa ni, bod gweithio bryd hynny yn rhan o'r swydd, ac rydym yn ei drin fel ‘unrhyw ddiwrnod arall’. Fodd bynnag, rydym bob amser yn sicrhau ei fod yn ddiwrnod arbennig ac rydym yn gwneud y gorau o'r sefyllfa.

“Gobeithio na fyddwn yn cael ein galw allan ar y diwrnod mawr, oherwydd bydd hynny'n golygu bod pawb yn ddiogel ac yn iach. Fodd bynnag, os byddwn ni'n mynd i ddigwyddiad, er y byddwn ni'n mynd adref gyda rhai atgofion o'r diwrnod yn ein meddyliau, byddwn ni'n gwybod ein bod wedi helpu rhywun pan oedd angen hynny fwyaf, ac wedi rhoi'r gofal gorau posibl. Nadolig diogel, iach a llawn iawn i bawb, a Blwyddyn Newydd Dda!” 

Simon Cartwright, Ymarferydd Gofal Critigol, Lleoliad gwaith: Y Trallwng

CCP Simon Cartwright & Xmas tree

Bydd yr Ymarferydd Gofal Critigol, Simon Cartwright, yn treulio Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig yn gweithio yng nghanolfan Ambiwlans Awyr Cymru yn y Trallwng. 

Dyma fydd ei Nadolig cyntaf yn gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru, ar ôl iddo ymuno â'r Elusen ddwy flynedd yn ôl, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm. Bydd Dydd Nadolig iddo ef yn dechrau fel unrhyw shifft weithredol arall ond gyda rhywfaint o ysbryd yr ŵyl gan ei gydweithwyr. 

Dywedodd: “Fel unrhyw ddiwrnod arall, byddwn ni'n archwilio'r pecyn a'r cyfarpar meddygol i sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y diwrnod ac yn paratoi'r hofrennydd a'r cerbyd ymateb cyflym. Mae'r diwrnod yn dibynnu ar b'un a fyddwn ni'n cael ein galw i helpu rhywun mewn angen ledled Cymru. 

“Rydym yn bwriadu gwneud cinio Nadolig i'r tîm a byddwn ni'n bwyta digon o fins peis. 

Mae mwy o ymdrech yn cael ei wneud dros y Nadolig i wella morâl. Mae ein coeden i fyny ac rydym yn trefnu ‘Santa Cudd’ yn y ganolfan. Dyma fy Nadolig cyntaf gydag Ambiwlans Awyr Cymru felly rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm. Mae cwmnïaeth dda bob amser. Tîm bach ydym ni sy'n ffynnu drwy gefnogi ein gilydd.”  

Bydd Simon yn gweithio diwrnod 12 awr rhwng 8am ac 8pm a bydd yn treulio gyda'r nosau ar Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig gyda'i gariad, ei theulu a'i deulu ei hun. 

Dywedodd: “Gobeithio bydd rhywfaint o fwyd dros ben i mi pan fyddaf yn mynd adref y ddau ddiwrnod – rwy'n caru cinio Nadolig. Dydw i ddim yn gweithio ar Ddydd San Steffan felly byddaf yn gallu dal i fyny'n iawn gyda phawb bryd hynny. I mi, y rhan orau o weithio dros y Nadolig yw gwybod ein bod yno i helpu rhywun pan fydd angen."

Jez James, Ymarferydd Gofal Critigol, 50 oed, Lleoliad gwaith: Dafen, Llanelli

EMRTS Clinician Jez James

Mae Jez James wedi bod yn gweithio fel meddyg i'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) gydag Ambiwlans Awyr Cymru ers chwe blynedd, ac mae wedi'i leoli yng Nghaerdydd yn bennaf. 

Bydd Jez, 50 oed, sy'n dad i un plentyn, yn gweithio'r shifft nos ar Noswyl Nadolig rhwng 7pm a 7am gan ddelio â'r holl alwadau 999, a nodi'r rhai sydd angen ymyriadau gofal critigol. Bydd yn gweithio gyda dyrannwr i anfon Ambiwlans Awyr Cymru pan fydd angen.

Dywedodd: “Gydag un hofrennydd sy'n gweithio 24/7 i gwmpasu Cymru dros nos, fy swydd i fydd sicrhau bod ein criwiau'n cael eu hanfon i'r digwyddiadau mwyaf critigol ledled Cymru ynghyd â monitro ble mae Santa yn hedfan yn ei sled, gan nad ydyn ni am dorri ar ei draws. Byddaf yn ei dracio'n fyw drwy'r nos.”

Mae Jez wedi gweithio ar Ddydd Nadolig ddwywaith ers iddo ddechrau gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru a chyn hynny bu ar ddyletswydd dros y Nadolig pan oedd yn gweithio fel parafeddyg.

Mae wedi colli sawl Nadolig gyda'r teulu gan gynnwys rhai gyda'i fab, sy'n 11 oed bellach.

Dywedodd: “Mae fy mab yn hŷn eleni, felly nid yw'n rhy ddrwg. Mae wedi gofyn a allaf ddod adref cyn gynted â phosibl fel y gall agor ei anrhegion. Does gen i ddim taith bell i yrru adref felly gobeithio y byddaf adref yn gynnar eleni. Mae'n siŵr y byddaf yn dod adref ar ôl y shifft, yn gwylio'r anrhegion yn cael eu hagor, yn cael brecwast, yna'n mynd yn ôl i'r gwely am ychydig oriau cyn cael cinio Nadolig.

“Rwyf wedi colli Dydd Nadolig gyda fy mab sawl gwaith, sy'n eithaf anodd. Maen nhw'n tyfu mor gyflym! Un flwyddyn, rwy'n cofio gwylio fy mab yn agor ei anrhegion ar Ddydd Nadolig dros Facetime. Pan fyddwch yn derbyn y swydd, rydych yn gwybod y byddwch yn gorfod gweithio oriau anghymdeithasol. Mae'r tîm yn dda iawn ac yn aml bydd pobl yn newid shifftiau â'r rhai sydd â phlant iau dros y Nadolig ac ar achlysuron arbennig.”

Dywedodd Jez fod gweithio ar Ddydd Nadolig yn union fel unrhyw ddiwrnod arall.

“Busnes fel arfer yw hi. Mae busnesau lleol yn tueddu i roi bwyd i ni ar Ddydd Nadolig sy'n rhoi hwb enfawr i ni. Gan fod llefydd ar gau ar Ddydd Nadolig, rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr.”

“Mae'n swydd hynod werth chweil, ac mae'n fraint gwasanaethu pobl Cymru dros y Nadolig a thrwy gydol y flwyddyn.”  

Corey Mead, Ymarferydd Gofal Critigol, 26 oed, Lleoliad gwaith: Cwmbrân

CCP Corey Mead 

Mae Corey, sy'n 26 oed, o Aberpennar, wedi bod yn gweithio i'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) ar Ambiwlans Awyr Cymru ers dwy flynedd ar ôl iddo ymuno â'r gwasanaeth ym mis Medi 2022. Hon fydd y flwyddyn gyntaf iddo weithio i'r Elusen ar Ddydd Nadolig.

Caiff shifftiau Ymarferwyr Gofal Critigol eu rhannu rhwng gweithio ar Ambiwlans Awyr Cymru ac yn Hwb Gofal Critigol EMRTS, yn y Ganolfan Rheoli Ambiwlansys yng Nghwmbrân. Bydd Corey yn monitro pob galwad 999 a wneir yng Nghymru ac yn nodi pa rai y mae angen gofal critigol uwch arnyn nhw.

Dywedodd: “Byddaf yn gweithio Ddydd Nadolig rhwng 7am a 7pm yn yr Hwb Gofal Critigol yn y Ganolfan Rheoli Ambiwlansys yng Nghwmbrân, gan fonitro'r galwadau 999 sy'n dod drwodd.  

“Rwy'n gwirfoddoli i weithio ar Ddydd Nadolig fel arfer. Dydw i ddim wedi priodi a does gen i ddim plant, yn wahanol i'm cydweithwyr. Byddai'n well gen i alluogi iddyn nhw dreulio amser gyda'u teuluoedd ar Ddydd Nadolig.

“Pan oeddwn i'n barafeddyg, roeddwn i'n arfer gweithio bron bob Nadolig o'r adeg y gwnes i ymuno â'r Gwasanaeth Ambiwlans yn 18 oed. Doeddwn i ddim yn gweithio y llynedd ond mae wedi dod yn rhan o'm swydd. 

“Os na fyddwn i'n gweithio ar Ddydd Nadolig, byddwn i yn nhŷ fy mam yn cael cinio Nadolig gyda fy llystad a'm brawd ac mae'n siŵr y byddwn i'n aros yno am rai diwrnodau er mwyn ymweld ag aelodau eraill o'r teulu. Mae fy mrawd hefyd yn gweithio i'r gwasanaethau brys fel swyddog trin galwadau 999 yn y Gwasanaeth Ambiwlans, a bydd e'n gweithio hefyd. Mae fy mam wedi arfer â'r ffaith ein bod ni'n gweithio ar Ddydd Nadolig erbyn hyn!

“Eleni, byddwn ni'n dathlu Dydd Nadolig fel teulu ar Ddydd San Steffan gyda chinio a'r holl drimins. Yna byddaf yn ôl yn y gwaith yn gynnar Ddydd Calan felly dim partis Nos Calan eleni!

“Byddaf hefyd yn dathlu fy Nadolig yn ystod ail wythnos mis Ionawr pan fyddaf yn mynd i sgïo gyda rhai o'm cydweithwyr, ein ffrindiau eraill a'u partneriaid. 

“Er na wnes i weithio y llynedd, roedd Dydd Nadolig yn brysur iawn. Rwy'n meddwl ein bod ni bob amser yn disgwyl cael diwrnod prysur.

“Gan y byddaf yn gweithio ar y ddesg yn gofalu am y galwadau critigol sy'n dod i mewn, bydd yn brysur. Gobeithio y bydd cinio Nadolig yn cael ei goginio ni, felly hyd yn oed os byddaf yn ei fwyta wrth fy nesg, dylwn allu cael rhywbeth Nadoligaidd.  

“Mae'n rhaid i chi fod yn drefnus ar gyfer y Nadolig. Rydym yn gweithio oriau anghymdeithasol, a phan fyddaf yn gweithio yng Nghaerdydd, lle mae'r gwasanaeth yn gweithio 24 awr y dydd, gallaf fod yn gweithio shifftiau nos hefyd. Felly, gyda hynny daw blinder a'r peth olaf y byddwch yn teimlo fel ei wneud yw mynd allan i siopa Nadolig yng nghanol y torfeydd prysur. Mae'n rhan o'r swydd, ac mae pob un ohonom yn gwybod hynny o'r dechrau.

“Rwy'n bwriadu prynu fy holl anrhegion yn gynnar eleni!”

“Gall fod yn anodd cymdeithasu dros gyfnod y Nadolig ac mae adegau pan na alla i fynd allan gyda fy ffrindiau. Mae gen i grŵp o ffrindiau o'r ysgol sy'n gweithio o 9am i 5pm felly gall fod yn anodd cael pawb at ei gilydd pan fyddwch chi'n gweithio oriau fel ni, ond mae'n nhw'n dda am ddeall ac maen nhw'n falch o'r hyn rwy'n ei wneud. Mae gen i grŵp da o ffrindiau yn y gwasanaeth hefyd. Rwy'n gwneud fy swydd ddelfrydol.

“Diwrnod gwaith arferol yw Dydd Nadolig i ni. Dyw ein swydd ni byth yn stopio. Rwyf wedi gweithio ar Ddydd Nadolig y mwyafrif o flynyddoedd yn fy ngyrfa ac mae'r gwmnïaeth gyda fy nghydweithwyr bob amser yn wych. Mae gwybod fy mod i yno i achub bywyd rhywun gobeithio yn werth chweil bob diwrnod o'r flwyddyn, ond mae'n fwy gwir dros gyfnod y Nadolig.

Mae'n anochel y byddwch chi'n cael galwadau trist a brawychus dros gyfnod y Nadolig, ac rwy'n ceisio peidio gorfeddwl am y rheini. Yn anffodus, mae hyn yn digwydd i ni drwy gydol y flwyddyn ond mae'n naturiol ei bod yn ymddangos bod pobl yn rhoi mwy o ffocws ar hyn dros gyfnod y Nadolig.

“Tîm cymharol fach ydym ni ac yn y cyfnod cyn y Nadolig rhwng galwadau, rydym yn ceisio coginio a bwyta gyda'n gilydd. Mae fel treulio'r Nadolig gyda'ch ail deulu. 

“Fel arfer, byddwn ni'n cael ein galw i ddamweiniau traffig ffordd, pobl yn mynd i weld ffrindiau a theulu efallai, neu blant sydd wedi syrthio oddi ar feic neu sgwter a gawsant fel anrheg Nadolig neu gleifion sydd wedi cael trawiad ar y galon ar ôl eu cinio Nadolig er enghraifft.”

 

Rhyan Curtin, Ymarferydd Gofal Critigol, Lleoliad gwaith: Caerdydd

Eleni, bydd yr Ymarferydd Gofal Critigol, Rhyan Curtin, sy'n gweithio i Ambiwlans Awyr Cymru, yn dathlu'r Nadolig ddiwrnod yn gynnar ar Noswyl Nadolig gyda'i fab tair oed, ei ddyweddi a'i deulu.

Dyma'r ail dro iddo weithio ar Ddydd Nadolig ers i'w fab gael ei eni, ond mae'n dweud ei fod yn hapus i allu gwasanaethu pobl Cymru pan fydd angen y gwasanaeth arnynt fwyaf.

Dywedodd Rhyan: “Fel teulu, byddwn yn dathlu'r Nadolig ar Noswyl Nadolig a byddwn yn cael bwyd, yn cyfnewid anrhegion ac yn treulio amser gyda'n gilydd fel teulu bryd hynny. Bydd gen i'r cyfnod cyn y Nadolig o hyd a dydw i ddim yn gweithio ar Ddydd San Steffan, felly dim ond un diwrnod ydyw. Mae fy mab dal braidd yn ifanc i wybod felly gobeithio na fyddaf yn gweithio'r flwyddyn nesaf pan fydd yn dechrau gwybod mwy am y Nadolig.

“Does dim ots gen i weithio ar Ddydd Nadolig. Mae'r tîm yn gefnogol iawn ac mae fel treulio'r diwrnod gyda fy ‘ail deulu’. Mewn rhai ffyrdd, mae'n debyg iawn i weithio diwrnod arferol. Fodd bynnag, mae pawb yn ymwybodol ei fod yn Ddydd Nadolig ac os bydd unrhyw achosion anodd, byddwn ni yno i wneud ein gwaith a bod yn broffesiynol. Mae'n waith difrifol, ac yn anffodus, byddwn yn mynd i ddigwyddiadau lle bydd yn rhaid i ni dorri newyddion drwg i gleifion neu deuluoedd ar Ddydd Nadolig. I rai, bydd yn wahanol iawn i'r Nadolig roeddent wedi disgwyl ei gael. 

“Gall y Nadolig fod yn adeg ddigalon, ac mae'n gwneud i chi feddwl hyd yn oed mwy am eich teulu.

“Gall pobl feddwl bod Dydd Nadolig yn dawel i Ambiwlans Awyr Cymru, ond o brofiad, gall fod yn ddiwrnod prysur. Mae pawb yn rhuthro o gwmpas yn ceisio mynd i lefydd, mae pobl yn llawn straen, gyda llawer o bethau i'w gwneud a llawer o bobl i'w gweld. 

“Mae'n ddiwrnod arferol a byddwn yn mynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau boed hynny'n ddamwain ffordd, yn ataliad ar y galon neu ddigwyddiadau domestig hyd yn oed.”

Bydd Rhyan yn gweithio o'r ganolfan yng Nghaerdydd rhwng 7am a 7pm ac mae'n gobeithio cael cinio Nadolig gyda'r criw yn ôl yn y ganolfan.

“Rydym yn gweithio mewn amgylchedd tîm cefnogol iawn, ac mae'n braf gallu dod at ein gilydd a chael cinio Nadolig bach gyda'ch ‘teulu gwaith’. Mae pawb yn ysbryd yr ŵyl, ac yn yr un sefyllfa â chi ac yno i wneud eu gwaith.

“Bydd un o'r peilotiaid, Pete Martin, yn dod i mewn ar ei ddiwrnod i ffwrdd i goginio cinio Nadolig gyda'i wraig Sally, fydd yn hyfryd.

“Rwy'n siŵr y bydd digon o fwyd a siocledi'n cael eu rhannu hefyd.

“Mae'n fraint gwasanaethu pobl Cymru dros y Nadolig a thrwy gydol y flwyddyn.” 

 

 

Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol Oedolion (ACTS) Cymru

 

Kirsty Holdsworth, 28 oed, RTP ACCTS, o Fangor.

Xmas Day workers 2023

Kirsty Holdsworth ac Arwel Owen

“Dw i newydd ddechrau gweithio i’r gwasanaeth. Treuliais dair blynedd yn gweithio yn Aintree yn Lerpwl, ond des i nôl ym mis Gorffennaf mewn swydd banc.

“Rwyf wedi gweithio Dyddiau Nadolig o’r blaen pan oeddwn yn Aintree. Byddwn yn gwneud hanner diwrnod yno ac yna yn teithio yn ôl adref ar ôl fy shifft i bentref Rhostryfan lle rwy'n byw, a chael dydd Nadolig yno hefyd.

“Mae fy mhartner yn byw yn Ynys Môn ac mae’n dod draw ar Ddydd Nadolig at fy rhieni i dreulio’r diwrnod gyda ni, ond yn amlwg bydd eleni yn wahanol i ni.

“Fe fydd yn ei wario gyda’i fam, ac yna’n dod draw at fy rhieni fin nos i ymuno â mi.

“Bydda i’n gweithio 8 i 8, gydag Arwel, y CCTA. Mae natur y swydd yn golygu y gallai unrhyw beth ddigwydd, felly gallai fod yn orffeniad hwyr. Bydd yn rhaid i ni weld beth sy'n digwydd. Mae Dydd Nadolig yn dueddol o fod yn brysur mae'n debyg, felly gawn ni weld.

“Mae mam wedi gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd ac yn gweithio hanner diwrnod beth bynnag hefyd, felly mae hi'n deall y sefyllfa. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn y teulu yn weithwyr y GIG, felly maen nhw i gyd yn deall natur y swydd. Mae fy mhartner yn gweithio i’r GIG hefyd, mewn cludiant cleifion nad ydynt yn rhai brys. Mae wedi gweithio Noswyl Nadolig o'r blaen.

“Dim ond Dydd Nadolig ydw i, yna dwi i ffwrdd ar Ŵyl San Steffan a Nos Galan, a dydw i ddim yn gweithio Noswyl Nadolig, felly dim ond yr un diwrnod yw hi mewn gwirionedd a dwi i ffwrdd am weddill yr amser, felly nid yw rhy ddrwg.

“Does dim ots gen i weithio achos mae yna awyrgylch Nadolig braf, ac mae'n debyg y byddwn ni'n gwneud rhywbeth Nadoligaidd ar y diwrnod ac yn rhannu ychydig o fwyd Nadoligaidd. Bydd yn rhaid i ni weld pa mor brysur ydyn ni.”

Carys Nicholls, 33, Ymarferydd Adalw a Throsglwyddo (RTP) gydag ACCTS, 33, Caerdydd

“Cyn i mi ddechrau gweithio gydag ACCTS roeddwn i’n nyrs gofal dwys, ac rydw i wedi gweithio ar Ddydd Nadolig o’r blaen.

“Mewn rhai ffyrdd, mae gweithio ar Ddydd Nadolig yn union fel unrhyw ddiwrnod arall. Yr un swydd rydych chi'n ei gwneud, ond mae awyrgylch braf am y lle.

Mae perthnasau cleifion yn dod i mewn i'w gweld ac mae teimlad hapus.

“Mae yna ffordd gydlynol braf o weithio lle mae pawb ynddi gyda'i gilydd.

Dyma fy ail Ddiwrnod Nadolig yn gweithio gydag ACCTS. Fi a RTP arall ydoedd, nid oedd gennym feddyg gyda ni.

“Cawsom dri throsglwyddiad y llynedd. Roedd un o Singleton i Dreforys ac un o Dreforys yn ôl i Singleton. Roedd y swyddi i gyd yn iawn.

“Roedd un o’r peilotiaid rhwng sifftiau nos y llynedd, a daeth ei wraig i mewn a gwneud cinio Nadolig, ac fe wnaethon ni i gyd rannu hynny. Roedd rhwng galwadau felly roeddem yn gallu ei gael gyda'n gilydd.

“Mae fy mhartner yn gweithio ym maes gofal iechyd hefyd, mae’n gorffen ei shifft nos ar fore Nadolig a bydd yn cysgu ar ddydd Nadolig. Yn gyffredinol rydyn ni'n treulio'r diwrnod gyda fy ochr i o'r teulu, mae gen i nith a nai ifanc, felly byddwn i'n ei dreulio gyda nhw a fy chwaer a fy rhieni yng Nghaerfyrddin.

“Rydyn ni’n bwriadu mynd lawr a threulio Gŵyl San Steffan gyda nhw, felly dyna fydd ein Dydd Nadolig i’r teulu.

“Does gen i ddim plant ac mae fy mhartner yn gweithio’r noson cyn Dydd Nadolig felly dyw e ddim yn mynd i fod lan am fawr iawn ar Ddydd Nadolig chwaith, felly mae’n gweithio allan a gallwn ni ei ddathlu ar ddiwrnod arall.”

Xmas Day workers 

Carys Nicholls, Prateek Verma and Paul Driscoll. Mae'n nhw i gyd yn gweithio ar Dydd Nadolig

Paul Drisoll, 57 oed, o Benarth

Mae Paul wedi bod yn gweithio i ACCTS am y chwe mis diwethaf a chyn hynny roedd yn Dechnegydd Meddygol Brys gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Y llynedd, gweithiodd Paul y shifft nos ar ddydd Nadolig ac eleni oedd ei shifft dydd gyntaf ar ddydd Nadolig.

Dywedodd: “Byddaf yn gweithio o fy swyddfa arferol yng Nghaerdydd ar y sifft 8am i 8pm, gan drosglwyddo cleifion pan fydd y swyddi'n dod drwodd i ni. Mae mab gyda fi, ond fe fydd e a’i deulu yn treulio dydd Nadolig gyda theulu ei wraig eleni wrth i ni gylchdroi lle rydyn ni i gyd yn mynd ar gyfer y Nadolig. Mae fy ngwraig wedi bwriadu treulio’r Nadolig gyda’i mam, ac maen nhw i gael cinio nad yw mor draddodiadol o stêc a sglodion, y bydd hi hefyd yn ei wneud ar gyfer un o’n cymdogion sy’n byw ar ei ben ei hun.

“Dyma’r eildro yn unig i mi weithio ar ddiwrnod Nadolig gan fy mod i’n gweithio ym maes peirianneg o’r blaen ac, doedd y cwmnïau roeddwn i’n gweithio iddyn nhw ddim yn gweithio ar ddiwrnod Nadolig. Y llynedd bûm yn gweithio shifft nos ar ddydd Nadolig gyda'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghaerdydd.

“Roeddwn i’n ffodus i dreulio’r diwrnod gyda fy nheulu ac yna ar ôl golchi llestri ar ôl iddyn nhw adael, fe wnes i baratoi a mynd i’r gwaith. Ni allaf gofio pa swyddi a wneuthum yn ystod y sifft honno, ond bydd yn shifft wahanol eleni gan na fyddaf ar ambiwlans rheng flaen yn cael ei alw allan i unrhyw beth/popeth, ond ar ambiwlans trosglwyddo yn cael ei alw i symud cleifion o. un Uned Gofal Dwys ysbyty i un arall. Gan fod fy mab wedi tyfu i fyny nawr a bod ganddo deulu ei hun, byddwn yn dathlu’r Nadolig gyda nhw ar Ŵyl San Steffan.

“Bydd, bydd y Nadolig hwn yn wahanol i fy ngwraig a minnau, ond roedd y ddau ohonom yn gwybod, fel EMT neu CCTA, mai rolau 24/7 yw’r rhain a byddai amser yn dod pan fyddwn i’n gweithio ar ddydd Nadolig. I ni, yr amser hwnnw yw eleni. Er y byddaf i ffwrdd o fy nheulu ar amser arbennig, byddaf yn edrych ymlaen at yr hyn y mae’r sifft yn ei gynnig yn yr un ffordd â phob sifft arall rwy’n gweithio.”