Mae meddyg ACCTS wedi cyd-ysgrifennu gwerslyfr i helpu i hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.
David Brent, Arweinydd Gweithredol ACCTS Cymru, yw prif awdur Applied Pathophysiology for Nurses and Healthcare Students at a Glance sydd wedi'i anelu at nyrsys a myfyrwyr gofal iechyd.
Dywedodd Tom: “Ar ôl ysgrifennu penodau ar gyfer nifer o werslyfrau gofal iechyd o’r blaen, dyma oedd fy nghyfle cyntaf i ymgymryd â rôl awdur arweiniol a chyfrannu at ddatblygiad gwerslyfr cyfan.
“Nod y llyfr yw gwneud patholeg gymhleth yn hygyrch ac yn berthnasol i fyfyrwyr nyrsio a gofal iechyd. Mae gweld y cyhoeddiad gorffenedig wedi bod yn garreg filltir i mi deimlo’n falch ohono ac wedi rhoi cyfle i gyfrannu at ddysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.”
Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth ACCTS, Meryl Jenkins, y bydd y cyflawniad nid yn unig yn helpu i lunio a chefnogi dyfodol ymarfer uwch i eraill, ond ei fod hefyd yn barhad o daith broffesiynol ac academaidd David ei hun.
Ychwanegodd: "Rydym i gyd yn hynod falch o David Brent fel un o brif awduron y llyfr hwn. Bydd yn cael ei ddefnyddio gan nyrsys ar eu taith ymarfer uwch ac mae'n adlewyrchu ymroddiad David i gefnogi a galluogi datblygiad y proffesiwn.
“Mae ei ymrwymiad i ddatblygu’r gweithlu a hyrwyddo ymarfer clinigol yn amlwg drwy gydol y cyhoeddiad o ansawdd uchel hwn.
“Yn ACCTS Cymru, credwn ei bod hi’n bwysig dathlu pob llwyddiant, ac mae cyflawniad David yn un sy’n haeddu cydnabyddiaeth. Llongyfarchiadau, David, ar y cyfraniad sylweddol hwn at ymarfer uwch ac addysg gofal iechyd.”