Neidio i'r prif gynnwy

Mae EMRTS yn cefnogi hyfforddiant gofal trawma i feddygon iau

Dydd Iau 30 Mawrth 2017

Mae meddygon y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) wedi cefnogi hyfforddiant sydd wedi’i anelu at wella gofal trawma yng Nghymru.

Cynhaliwyd y Diwrnod Dadebru, Anafiadau ac Asesu Trawma (TRIAD) yn ddiweddar yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. Fe'i mynychwyd gan un ar bymtheg o feddygon iau a oedd yn hyfforddi mewn Meddygaeth Frys, Anaesthesia a Meddygaeth Gofal Dwys.

Y meddygon EMRTS a gefnogodd y digwyddiad oedd Dr Ami Jones a Dr Gareth Roberts ynghyd â’r Ymarferwyr Gofal Critigol Rhyan Curtin, Marc Allen a Katherine Lynch.

Dywedodd Dr Jones, sydd hefyd yn Anesthetydd Ymgynghorol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac yn Is-gyrnol yng Nghronfeydd Wrth Gefn y Fyddin: “Cafodd y digwyddiad dderbyniad da ac roedd yr adborth yn ardderchog. Mae digwyddiadau fel hyn yn enghraifft gadarnhaol o ymgysylltiad EMRTS â gofal eilaidd a chyda hyfforddeion a allai fod yn hyfforddeion Meddygaeth Frys Cyn Ysbyty (PHEM) yn y dyfodol, neu hyd yn oed ymgynghorwyr EMRTS.”

Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys nifer o 'orsafoedd sgiliau' a oedd yn cynnwys gosod IO, rhwymo pelfig a gosod llinell ganolog. Cafodd y meddygon iau hefyd eu rhoi trwy gyfres o efelychiadau cysylltiedig â thrawma.

EMRTS support trauma training

Sefydlwyd TRIAD yn 2015 gan Dr Ami Jones, Dr Jonathan Lambley a Dr Nadine Jones ar ôl arsylwi arferion cymysg mewn gofal trawma.

Dywedodd Dr Jones: “Nod y cwrs yw gwella gofal trawma yng Nghymru a’r ardaloedd cyfagos trwy addysg. Mae wedi'i dargedu at feddygon iau ac mae'n canolbwyntio ar wneud y pethau sylfaenol yn dda ac annog awydd i anelu'n uchel.

“Mae EMRTS Cymru wedi gwneud ymrwymiad i gynaliadwyedd clinigol a sgiliau yng Nghymru. Dyma enghraifft arall eto o sut mae’r Gwasanaeth yn cefnogi gwella sgiliau a gwybodaeth ar draws y GIG.”

Dywedodd y Meddyg Iau Laura Gwatkin: “Es i’r digwyddiad Dadebru, Anafiadau ac Asesu Trawma fel rhan o ddiwrnod astudio Coesyn Cyffredin Gofal Acíwt. Roedd yn wirioneddol anhygoel.

“Darparodd ymarferwyr o’r radd flaenaf weithdai sgiliau a darlithoedd byr. Buom hefyd yn cymryd rhan mewn efelychiadau a oedd yn atgyfnerthu’r sgiliau a ddysgwyd ac yn cynnig profiad amhrisiadwy.”