Neidio i'r prif gynnwy

Cam-drin Domestig

Domestic abuse

Pan fydd rhywun yn cael ei gam-drin gall fod yn anodd ei adnabod yn aml. Gall llawer o bobl sy'n cael eu cam-drin ei chael hi'n anodd estyn allan am help oherwydd eu bod yn teimlo'n ofnus. Dylid cymryd cam-drin a amheuir o ddifrif bob amser. Mae yna nifer o sefydliadau a all helpu ac mae rhai ohonynt wedi'u hamlinellu isod. Os ydych chi’n credu eich bod chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn cael eich cam-drin neu mewn perygl difrifol, gallwch chi gysylltu â’r heddlu’n uniongyrchol i roi gwybod iddyn nhw.

Mae nifer o rwydweithiau cyngor a chymorth i’w gweld isod:

 

Byw Heb Ofn

Cyngor ar Gam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Thrais yn Erbyn Menywod

0808 8010 800

Dilynwch y ddolen hon i wefan Byw Heb Ofn

RISE

Cefnogaeth ac eiriolaeth i fenywod, plant a phobl ifanc (11-25) sy’n cael eu cam-drin sy’n gweithredu gwasanaeth argyfwng 24 awr gan gynnwys llety diogel mewn argyfwng

029 2046 0566

Dilynwch y ddolen hon i wefan RISE

Dyn Cymru

Adcie a chefnogaeth i ddynion sy’n profi trais a cham-drin domestig

0808 802 4040

http://www.dynwales.org/

Respect

Yn darparu cefnogaeth a chyngor i ddynion a merched sy'n cyflawni trais domestig

0808 802 4040

Dilynwch y ddolen hon i wefan Respect

Galop

Llinell gymorth trais domestig LHDT+ genedlaethol

0800 999 5428

Dilynwch y ddolen hon i wefan Galop

Karma Nirvana

Cefnogi dioddefwyr cam-drin ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod yn y DU

0800 5999 247

Dilynwch y ddolen hon i wefan Karma Nirvana

Atal Y Fro

Darparu cymorth i fenywod a phlant ym Mro Morgannwg sydd wedi profi, neu sy’n profi, trais domestig

01446 744755

Dilynwch y ddolen hon i wefan Atal Y Fro

BAWSO

Darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer Cymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig

029 20644 633

Dilynwch y ddolen hon i wefan Bawso

Cymru Ddiogelach

Elusen annibynnol wedi'i lleoli yng Nghaerdydd sy'n gweithio i helpu pobl i deimlo'n fwy diogel yn eu bywydau bob dydd

029 2022 0033

Dilynwch y ddolen hon i wefan Cymru Ddiogelach