Mae'r EMRTS a'r ACCTS yn darparu'r rhan fwyaf o drosglwyddiadau oedolion rhwng ysbytai lefel 2 a 3, a gellir gwneud atgyfeiriadau trwy'r Hwb Gofal Critigol ar 0300 1232301. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau ar gael yma.
Safonau Cenedlaethol
Mae'r gwasanaeth wedi glynu wrth ac wedi cefnogi datblygiad y diwygiad diweddaraf o'r Canllawiau ar gyfer Trosglwyddo Oedolyn sy'n Wael iawn, “Ailgynllunio am Oes” sydd i'w gael yma.
Fel rhan o'r safonau hyn, mae ein gwasanaeth bellach yn cynnal archwiliad trosglwyddo gofal critigol Cymru gyfan, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno copïau o ffurflenni trosglwyddo i'w cynnwys yn yr archwiliad. Mae rhagor o fanylion i'w gweld yn y canllawiau.