Gwnaeth Richard a Lydia Watts ddioddef hunllef pob rhiant pan gawsant eu rhybuddio i ‘baratoi am y gwaethaf’ ar ôl i'w mab Ioan ddioddef damwain anghyffredin. Ond diolch i Ambiwlans Awyr Cymru, mae Ioan yma i ddathlu'r Nadolig hwn gyda'i anwyliaid.
Ym mis Hydref 2022, roedd y teulu Watts yn dathlu pen-blwydd eu mab Rhodri pan ddaeth yn ben-blwydd i'w gofio am y rhesymau anghywir.
Roedd brawd hŷn Rhodri, Ioan, yn chwarae ar ei sgwter yn sied yr ardd, ond daeth yr hwyl i ben yn sydyn iawn pan lithrodd ar hyd y concrit gan gwympo dros silff 8tr o uchder, gan ei adael i frwydro am ei fywyd.
Oherwydd natur anafiadau Ioan, anfonodd Ambiwlans Awyr Cymru ddau dîm gofal critigol – un yn yr awyr, ac un ar y ffordd. Wrth gyrraedd, roedd yn amlwg i'r tîm ar unwaith bod Ioan mewn cyflwr gwael iawn; roedd yn anymwybodol, yn cael trawiad, a dechreuodd chwydu a oedd yn golygu bod ei lwybr anadlu wedi blocio.
Dywedodd Jez James, un o feddygon Ambiwlans Awyr Cymru y diwrnod hwnnw: “Fel rhan o'n rôl, rydyn ni'n wynebu sefyllfaoedd anodd iawn, ond mae gen i fab o oedran tebyg ac mae'r alwad hon wedi aros yn y cof. Roedd Ioan yn fachgen sâl iawn, un o'r rhai mwyaf sâl dwi wedi dod ar ei draws.”
Gwnaeth y tîm gofal critigol glirio ei lwybr anadlu a rhoi meddyginiaeth iddo i atal y trawiad. Gwnaethant hefyd roi anesthetig cyn-ysbyty iddo, a'i roi ar beiriant anadlu gan helpu i amddiffyn ei ymennydd.
Byddai'r triniaethau hyn ond ar gael mewn ysbyty fel rheol, ond diolch i bartneriaeth unigryw y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, cafodd Ioan y triniaethau hyn yn ei ardd gefn cyn cael ei drosglwyddo i'r Ganolfan Niwrolawdriniaeth a Thrawma Pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Rhybuddiwyd Lydia a Richard i ddisgwyl y gwaethaf, ac nid oedd criw Ambiwlans Awyr Cymru na'i deulu yn gwybod a fyddai Ioan yn deffro neu'n gwella.
Parhaodd Jez drwy ddweud: “Gwnaeth fy nghydweithwyr a minnau ein gorau glas dros Ioan, gan roi gofal critigol uwch iddo yn ei ardd. Roedden ni'n gwybod y bydden ni'n rhoi'r cyfle gorau posibl iddo oroesi, ond gan ei fod mor sâl, doedden ni ddim yn siŵr beth fyddai'r canlyniad.”
Treuliodd Ioan dair wythnos yn yr uned gofal dwys mewn coma, a chafodd graniotomi, lle cafodd rhan o'i benglog ei dynnu. Pan oedd mewn cyflwr critigol, gwnaeth tad Ioan siarad â ficer; rhywbeth y mae'n ei gofio fel petai'n ddoe.
Er gwaethaf hyn oll, dechreuodd Ioan arwyddion o wella, a chafodd ei dynnu oddi ar y peiriant anadlu yn araf dros amser.
Dywedodd Lydia, mam ddiolchgar Ioan: “Ar ôl 3 wythnos mewn coma a llawdriniaeth frys ar ei ymennydd, dechreuodd Ioan ei adferiad araf, gan ddysgu sut i gerdded, siarad, a gwneud popeth roedd yn gallu ei wneud cyn y ddamwain. Gweithiodd yn galed iawn, ac ar ôl 3 mis yn yr ysbyty, daeth adref i barhau â'i adferiad.
Dywedodd Ioan, sy'n ysbrydoliaeth i bawb: “Dydw i ddim yn cofio fy namwain, ond cafodd fy nheulu eu rhybuddio i baratoi am y gwaethaf. Treuliais dri mis yn yr ysbyty a ches i ragor o lawdriniaeth i roi'r rhan o'm mhenglog yn ôl i'w le.
“Doeddwn i ddim yn hoffi bwyd yr ysbyty, dim ond y jeli, ond roeddwn i'n ffodus bod modd mynd adref am ddiwrnod yn ystod fy adferiad, a Dydd Nadolig oedd hwnnw.”
Ers hynny, mae'r Nadolig wedi bod yn arbennig iawn i'r teulu Watts.
Parhaodd Lydia drwy ddweud: "Mae Ioan newydd ddechrau yn yr ysgol uwchradd a heb griw anhygoel yr ambiwlans awyr, fyddai ddim yma i gael yr holl brofiadau newydd hyn, a fyddai ddim yma i ddathlu'r Nadolig hwn gyda ni. Ni fydd dweud diolch byth yn ddigon am achub ein bachgen bach.”
Ers ei ddamwain, mae Ioan wedi ffynnu ac wedi mynd yn ei flaen i godi arian i'r elusen a achubodd ei fywyd. Mae hefyd wedi cwrdd â rhai o'r meddygon a ofalodd amdano, ac roedd y tîm wrth eu bodd yng nghwmni'r bachgen ifanc digrif.
Dywedodd yr Ymarferydd Gofal Critigol, Tom Archer: “Mae Ioan yn fachgen ifanc sy'n egnïol, yn felltigedig ac yn ddeallus iawn. Roedd ei weld fel hyn yn eithaf annisgwyl, oherwydd roedd yn fachgen sâl iawn, iawn ar ôl y damwain. Mae'n anhygoel gweld yr adferiad y mae wedi'i wneud.”
Dywedodd Matt Jones, a wnaeth drin Ioan hefyd: “Roedd cwrdd â Ioan a gweld yr adferiad y mae wedi'i wneud yn anhygoel, roedd yn rhoi gwên ar fy ngwyneb i allu ei weld yn uchel ei gloch a brwdfrydig. Roedd yn galonogol cael cwrdd ag ef a'i deulu – maent i gyd wedi mynd drwy gymaint.”
Parhaodd Lydia drwy ddweud: “Fyddwn ni byth yn anghofio Jez, Tom, Matt, na phawb arall a achubodd fywyd Ioan, ac rwy'n gobeithio eu bod yn gwybod pa mor ddiolchgar ydyn ni. Mae'n anodd iawn dod o hyd i'r geiriau i fynegi hynny.”
Gyda chefnogaeth y teulu Watts, lansiodd yr Elusen sy'n achub bywydau ei Hapêl Codi Arian Nadolig, sef Nod Nadolig Ioan.
Dywedodd Ioan: “Ers cael fy namwain, rydw i wedi codi arian i'm harwyr, gan ddringo Pen y Fan gyda Jez a rhedeg 2k, achos hebddyn nhw, fyddwn i ddim yma.
“Bydd y rhan fwyaf o blant yn gofyn am deganau y Nadolig hwn ond mae gen i ‘nod Nadolig’ i sicrhau y gall mwy o fywydau gael eu hachub y Nadolig hwn.Helpwch fi i gyflawni fy nod a rhowch i'r elusen hon sy'n achub bywydau. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei hangen arnoch chi neu'ch teulu. Diolch.”
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.
Os hoffech chi roi arian i apêl Nod Nadolig Ioan a helpu i achub mwy o fywydau ledled Cymru, gallwch roi arian drwy ymweld â https://www.walesairambulance.com/mymerrymission.