Ar ôl i Donna Constable syrthio wrth ‘hongian dillad’ roedd hi'n brwydo am ei bywyd, ond diolch i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, gwnaeth Donna wella'n rhyfeddol.
Ar Sul y Mamau ym mis Ebrill 2022, roedd Donna Constable o Ynys Môn wedi bod yn mwynhau'r tywydd braf a rhywfaint o arddio, ond heb iddi wybod, roedd ei bywyd ar fin newid.
Ar ôl dechrau coginio swper, cerddodd Donna i lawr 10 step concrit i waelod ei gardd, lle dechreuodd hongian dillad, ond yna aeth popeth yn dywyll.
Dywedodd Donna, a oedd wedi syrthio dros un o'r stepiau: “Un funud roeddwn i'n newid ychydig o'r dillad ar y llinell a'r peth nesaf rwy'n cofio yw deffro a gweld fy nhroed yn wynebu am yr awyr.
“Rwy'n cofio gweld yr esgyrn yn sefyll allan a rhoddais fy llaw i lawr, ac yna sylwais fy mod yn gallu teimlo'r gwaed a'r asgwrn.
“Gwnes i drio sefyll ond doeddwn i ddim yn gallu symud. Roedd fy mraich wedi plygu a doeddwn i ddim yn gallu ei symud, ac roedd fy sbectol wedi torri'n racs.”
Gwaeddodd Donna, mewn panig, am ei gŵr, a oedd ar ben yr ardd.
Aeth ymlaen i ddweud: “Cymerodd fy ngŵr dipyn o amser i fy nghlywed, ond wedyn edrychodd dros y ffens a fy ngweld i'n gorwedd yno. Daeth i lawr y grisiau a gweld yr holl waed a'r asgwrn yn fy nhroed, felly rhedodd i nôl ei ffôn i ffonio 999.
“Yn sydyn, meddyliais fy mod am farw yma.”
Gwnaeth Donna grio mewn poen, a thynodd hynny sylw ei chymdogion a oedd, yn ffodus iawn, yn gwerthu eu tŷ i ddau barafeddyg. Ffoniodd y prynwyr hynny a oedd yn lleol ac yn gallu dod i helpu Donna.
Heb fod yn ymwybodol o ddifrifoldeb ei hanafiadau, aeth un o'r parafeddygon i nôl cyfarpar o'u safle ambiwlans a gofyn i'w reolwr ddod i helpu.
Ar ôl cael un golwg ar Donna, gwnaethant gydnabod bod angen gofal critigol cyn ysbyty arni - gofal sy'n gallu cael ei ddarparu gan Ambiwlans Awyr Cymru yn unig.
Mae'r Hwb Gofal Critigol, 'y ddesg', yn rhan hanfodol o wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS. caiff pob galwad ffôn 999 ei monitro gan ymarferydd a dosbarthwr gofal critigol, 24 awr y dydd. Ar ôl derbyn galwad gan y parafeddygon yn nodi anafiadau Donna, gwnaethant anfon tîm gofal critigol o Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru ar gael 24/7 i helpu'r rhai sy'n dioddef anaf neu salwch sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff.
Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd – fel y mae stori Donna yn dangos.
Cafodd y Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol Mike Greenway a'r Ymarferwyr Gofal Critigol Oliver Ayles a Simon Cartwright eu hanfon o leoliad yr Elusen yn y Trallwng i Ynys Môn. Wedi iddynt gyrraedd, roeddent yn gallu gweld bod pigwrn ac arddwrn Donna wedi torri, y ddau yn anafiadau difrifol.
Dywedodd Donna: “Glaniodd yr ambiwlans awyr. Rwy'n eu cofio yn cyflwyno eu hunain, ‘Helo Donna, rydyn ni'n gallu gweld dy fod mewn llawer o boen ac rydyn ni am dy helpu.’ Roeddent yn hyfryd.
“Nid oedd pwls yn fy nghoes, ac roeddwn yn ofni fy mod am ei cholli.”
Rhoddodd y criw forffin, Fentanyl a rhywfaint o Entonox i ryddhau'r boen, a gwnaeth hyn eu galluogi i symud ei choes a oedd wedi torri yn ôl i'r safle syth a chywir, cyn ei roi mewn sblint. Cafodd Donna hefyd feddyginiaeth i helpu i stopio unrhyw waedu mewnol a gwrthfiotigau i helpu i atal unrhyw heintiau gan fod asgwrn wedi torri a chlwyf agored.
Fel arfer byddai'r triniaethau gofal critigol uwch a gafodd Donna yn ei gardd gefn ond ar gael mewn adran achosion brys ysbyty yn unig. Diolch i'r bartneriaeth unigryw rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r EMRTS, cafodd Donna ofal cyn ysbyty ar safle ei damwain, a achubodd ei bywyd yn y pen draw.
Fel gwasanaeth a arweinir gan feddygon, gall y tîm uwch sy'n defnyddio cerbydau Ambiwlans Awyr Cymru osgoi ysbytai lleol a chludo'r cleifion yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol, sy'n golygu arbed oriau a derbyn y driniaeth briodol o gymharu â gofal safonol.
Unwaith yr oedd wedi sefydlogi, gwnaeth y tîm drosglwyddo Donna i'r ysbyty mwyaf addas, yng Nghanolfan Trawma Mawr Ysbyty Brenhinol Athrofaol Stoke.
Cafodd Donna driniaeth y noson honno ac roedd angen llawdriniaeth bellach arni y diwrnod canlynol. Ond er gwaethaf anafiadau difrifol Donna, synnodd ei hun drwy boeni am freichled yr oedd yn gwisgo pob dydd, yn hytrach na'r llawdriniaeth ei hun.
Mae'r ymgynghorwyr EMRTS sy'n gweithio yng ngherbydau Elusen Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn gweithio mewn ysbytai ledled Cymru.
Mae'r Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol, Dr Mike Greenway, a roddodd driniaeth i Donna yn ei gardd, hefyd yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Stoke.
Er syndod mawr i Donna, daeth Mike i weld sut roedd hi drannoeth, ac roedd hynny'n deimlad hyfryd iddi.
Ar ôl sawl llawdriniaeth ac 17 diwrnod yn yr ysbyty, cafodd Donna fynd adref i wella.
Gan fyfyrio ar yr Elusen a achubodd ei bywyd, dywedodd Donna: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn golygu popeth i mi, rwy'n sicr na fyddwn yma heddiw os na fyddent wedi dod i fy helpu.
Nid oedd Donna yn ymwybodol o ba mor ddatblygedig yw Ambiwlans Awyr Cymru ac ni feddyliodd fyth y byddai angen eu cymorth arni. Aeth ymlaen i ddweud: “Dydych chi ddim yn meddwl am Ambiwlans Awyr Cymru yn dod i'ch helpu chi, ond maent yno pan fyddwch mewn perygl a gallant ddarparu triniaethau sy'n well na gofal safonol.
“Mae ganddynt timau arbenigol cymwys a all roi'r cyffuriau a'r triniaethau sydd eu hangen arnoch yno ar y tir. Ni allaf gwyno am yr ambiwlans awyr na'r cymorth y gwnaethant ei roi i mi ac am fy nghludo i Stoke - gwnaethant achub fy mywyd.”
Aeth Donna ymlaen i gael cymorth gan Wasanaeth Ôl-ofal yr Elusen, a chafodd ei chyflwyno i Hayley Whitehead-Wright, Nyrs Cyswllt Cleifion, sydd â'r rôl o gefnogi cleifion a'u teuluoedd ar ôl digwyddiad trawmatig a sydyn sydd fel arfer yn newid bywydau.
Fel llawer, nid oedd Donna yn ymwybodol bod yr Elusen yn cynnig cymorth ôl-ofal i gleifion, ac mae'r cymorth y mae wedi'i gael wedi bod yn werth chweil.
Dywedodd: “Mae Hayley, y nyrs cyswllt cleifion, wedi bod yn fendith. Mae wedi bod yn llawn cymorth, ac mae'n amlwg yn bwysig iddi. Mae angen i bobl sylwi bod Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gofal parhaus i ni, nid yw'n dod i ben ar ôl i chi gael y ddamwain. Aeth Hayley gam ymhellach na'r hyn sydd i'w ddisgwyl, gan fy helpu i ddod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd.”
Mae Donna wedi mynd ymlaen i ymuno â Fforwm Cleifion yr Elusen, sef grŵp sy'n rhoi cyfle i gleifion gwrdd ag eraill sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg. Gan gyfarfod yn chwarterol, mae'r fforwm yn rhoi cyfle i gleifion fynegi eu teimladau a'u hadborth ar y gwasanaeth.
Dywedodd Donna, yn ddiolchgar: “Ni allaf bwysleisio pa mor hanfodol yw'r Gwasanaeth Ôl-ofal, a'r meddygon a ddaeth i fy helpu. Rwy'n ddyledus iawn iddynt. I mi, nhw yw fy achubwyr. Ni all unrhyw ganmoliaeth na swm o arian fod yn ddigon i ddiolch iddynt.”
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.
Helpwch i achub mwy o fywydau fel Donna drwy roi arian heddiw yn www.ambiwlansawyrcymru.com
Prif Llun: Donna a EMRTS nrys cyswllt cleifion Hayley Whitehead-Wright