Neidio i'r prif gynnwy

Dyn diolchgar yn diolch i feddygon a phobl a oedd yn bresennol am achub ei fywyd

Anthony Crothers

Ym mis Hydref 2024, roedd Anthony Crothers wedi bod yn mwynhau cerdded yn y Gŵyr gyda'i wraig a'u dau ffrind pan gwympodd yn sydyn a bron â cholli ei fywyd.

Stopiodd Anthony anadlu y tu allan i'r siop yn Three Cliffs Bay, Gŵyr. Rhuthrodd ei ffrind Glyn Dewis, gyda chymorth dau berson arall, Dean a Jamie, i'w helpu. Gwnaethant ffonio 999, dechrau cywasgu ei frest a chysyllton nhw ddiffibriliwr cymunedol â'i frest, a roddodd un sioc iddo.

Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, cyrhaeddodd pedwar meddyg nad oeddent ar ddyletswydd y lleoliad gan helpu i'w adfywio wrth iddynt aros i'r parafeddygon gyrraedd.

Perfformiodd y meddygon bum cylch o adfywio cardiopwlmonaidd a chafodd Anthony bum sioc gan y diffibriliwr. Diolch byth, ailddechreuodd ei galon ychydig cyn i'r parafeddygon gyrraedd.

Cynhaliodd y parafeddygon asesiad cyflym, rhoesant rywfaint o ocsigen i Anthony, cefnogi ei lwybr anadlu a'i gysylltu â'u holl beiriannau monitro.

Oherwydd ei gyflwr, cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei alw i roi gofal safon ysbyty i Anthony yn y maes parcio. Pan gyrhaeddodd criw'r ambiwlans awyr, roedd Anthony yn parhau i fod yn anymwybodol ac angen cymorth i anadlu. Roedd pwls Anthony yn araf iawn ac yn wan.

Gwnaeth meddygon y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) ar fwrdd Ambiwlans Awyr Cymru, y Meddyg Ymgynghorol Dr Iain Edgar a'r Ymarferwyr Gofal Critigol Derwyn Jones a Rhyan Curtin, ei sefydlogi drwy fewnosod tiwb anadlu a'i gysylltu â pheiriant anadlu. Drwy gymryd anadlu Anthony drosodd, gwnaeth hyn sicrhau bod digon o ocsigen yn cyrraedd ei ymennydd, gan atal niwed i'r ymennydd.

Wrth i barafeddygon Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gysylltu ag Ysbyty Treforys i drefnu trosglwyddiad uniongyrchol i'r ganolfan gardiaidd, rhoddodd criw'r ambiwlans awyr adrenalin i Anthony er mwyn cadw cyfradd curiad ei galon a'i bwysedd gwaed o fewn y terfynau arferol.

Tra roedd Anthony o dan oruchwyliaeth gyson meddygon Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd ei gludo yn yr awyr i'r Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Treforys, lle roedd angen iddynt fewnosod stentiau cardiaidd (tiwbiau rhwyll bach, chwyddadwy a ddefnyddir i ledaenu rhydwelïau coronaidd wedi'u blocio neu sydd wedi culhau, gan wella llif y gwaed i'r galon) iddo. Treuliodd Anthony wythnos yno, cyn cael ei drosglwyddo i Uned Driniaeth Ddwys Ysbyty Athrofaol Cymru er mwyn bod ychydig yn agosach i'w gartref.

Ar ôl naw diwrnod ar beiriant anadlu a bron i bedair wythnos yn yr ysbyty, cafodd ei ryddhau ac aeth ymlaen i wella'n llwyr gartref. Mae Anthony bellach yn cymryd meddyginiaeth bob dydd ac yn gwneud yn dda iawn.

Yn ddiweddar, roedd Anthony wrth ei fodd o gael cwrdd unwaith eto â rhai o'r bobl a roddodd sylw iddo ar y diwrnod hwnnw.

Mae Anthony wedi dweud bod y diwrnod y cafodd ataliad y galon yn gwbl aneglur iddo. Mae'n edrych ar luniau ar ei ffôn ac yn meddwl tybed pwy a'u tynnodd, er mai fe wnaeth dynnu'r lluniau. Dywedodd: “Does gen i'r un atgof o beth ddigwyddodd i mi. Efallai mai dull diogelu'r ymennydd ydyw o ddileu'r trawma. Y peth cyntaf rwy'n ei gofio yw deffro yn yr Uned Gofal Dwys yng Nghaerdydd a meddwl sgwn i pam roeddwn i yno.”

Ychwanegodd Anthony nad oedd erioed wedi cael problemau iechyd sylweddol cyn yr ataliad ar y galon ond roedd sawl aelod o'i deulu wedi dioddef problemau â'r galon.

Dywedodd: “O safbwynt personol, rydw i wedi ceisio cadw'n heini. Mae gen i broblem gyda fy mhen-glin yn sgil chwarae pêl-droed. Ond yr unig dro arall imi fod yn yr ysbyty, ar wahân i gael llawdriniaeth ar y ben-glin, oedd i dynnu fy nhonsils pan oeddwn yn 21 oed.”

Anthony Crothers

Ymwelodd Anthony a'i wraig â phencadlys Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen, Llanelli.

Cyfarfu ag un o feddygon Ambiwlans Awyr Cymru, Dr Iain Edgar, a fu'n ei drin. Yn ystod y diwrnod emosiynol cyfarfu Anthony â'r meddygon nad oeddent ar ddyletswydd a'r bobl oedd yno.

Dywedodd ei ffrind Glyn: “Yr hyn rwy'n ei gofio am y diwrnod, pan ddigwyddodd y cyfan, oedd mai hwn oedd yr ail ddiwrnod o daith ffordd deuddydd yr oeddem wedi bod arni. Roedd y tywydd yn braf, aethom i lawr i'r traeth yn Three Cliffs Bay ac roeddem yn cerdded am yn ôl.

“Trodd ei gefn ataf wrth i ni gyrraedd cist y car ac roedd y peth yn swreal. Clywais e'n dweud y geiriau ‘o jiw’. Dywedais innau ‘beth sy'n bod, mêt, a chwympodd am yn ôl a gwnes innau ei ddal.”

Wrth fyfyrio ar ba mor bwysig yw'r gwasanaeth i bobl Cymru ac i bobl sy'n ymweld â Chymru, dywedodd Glyn: “Rydw i mor ddiolchgar bod gwasanaeth fel Ambiwlans Awyr Cymru ar gael, a bod yna bobl sy'n barod i roi eu hunain mewn sefyllfa mor anhygoel o ddirdynnol i hedfan a thrin pobl. Mae'n wych, yn hollol wych.”

Mae Glyn wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf brys yma ac acw ers dros 30 o flynyddoedd. Dywedodd: “Mae'n rhyfeddol fy mod i wedi chwarae rhan yn adferiad Anthony. Mae'n swreal. Pa mor aml y mae rhywun yn mynd trwy fywyd ac yn gallu dweud eu bod wedi helpu i achub rhywun arall, oni bai eu bod yn y proffesiwn meddygol?

Dywedodd y tad 66 oed i dri a thad-cu i bump o blant: “Mae fy adferiad wedi bod yn mynd yn dda. Rwy'n dweud ‘yn mynd’ oherwydd mae'n broses barhaus ac rwy'n bwriadu cadw'n heini, gan gadw ar y gyfundrefn ffitrwydd.

“Mae dod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd wedi bod ychydig yn swreal oherwydd rydych chi'n credu eich bod yn anorchfygol nes bod rhywbeth fel hyn yn digwydd. Pan gefais fy rhyddhau o'r ysbyty, roedd gen i ychydig o orbryder meddygol, lle roeddwn i'n ofn mynd i gysgu rhag ofn na fyddwn i'n deffro.

“Pan oedd fy mhledren yn fy neffro yn gynnar yn y bore, roeddwn yn cael rhyddhad o feddwl ‘rwyf yma o hyd felly’. Rwy'n dod yn well. Dydw i ddim yn cael unrhyw orbryder mwyach ond mae ymweld â phencadlys Ambiwlans Awyr Cymru wedi bod yn fraint ac mae cwrdd â'r bobl a'm helpodd wedi fy helpu i roi pethau yn eu lle.  Mae wedi bod yn bleser.”

Aeth Anthony ymlaen i gael cymorth gan Wasanaeth Ôl-ofal yr Elusen, a chafodd ei gyflwyno i Jo Yeoman, Nyrs Cyswllt Cleifion, sydd â'r rôl o gefnogi cleifion a'u teuluoedd ar ôl digwyddiad trawmatig a sydyn sydd fel arfer yn newid bywydau.

Roedd Jo yn allweddol wrth drefnu i Anthony gael cyfarfod â'r unigolion a helpodd i achub ei fywyd y diwrnod hwnnw.

Anthony Crothers

Dywedodd Dean Adams a oedd yno, iddo deimlo iddo gyflawni rhywbeth drwy helpu i achub Anthony, ac roedd ar ben ei ddigon i fod yn rhan o'r aduniad. Dywedodd: “Roedd yn deimlad swreal mewn sawl ffordd. Digwyddodd y peth o fy mlaen i ac rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ymateb yn yr un ffordd oherwydd does dim ffordd arall o ymateb. Mae wedi bod yn wych i gwrdd ag Anthony.”

Ers hynny, mae'r bobl a oedd yno ar y dydd wedi cael tystysgrifau am helpu i achub bywyd rhywun arall gan  Achub Bywyd Cymru, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o adfywio cardiopwlmonaidd a defnyddio ddiffibriliwr i roi gofal sy'n achub bywydau.

Dywedodd Julie Starling, rheolwr clinigol Rhaglen Ataliad y Galon y Tu Allan i'r Ysbyty ar gyfer Achub Bywyd Cymru: “Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod gweithredoedd y bobl hynny sy'n fodlon rhoi cynnig ar adfywio cardiopwlmonaidd waeth beth fydd y canlyniad, mae gwneud rhywbeth cymaint yn well na gwneud dim byd o gwbl. Mae'r stori hon yn dangos sut y gall gweithredu achub bywyd a bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae fel rhan o dîm ehangach yn y gadwyn oroesi honno. Mae'n bwysig bod pawb yng Nghymru yn gyfarwydd â'r broses o roi cymorth adfywio cardiopwlmonaidd ac mae modd gwneud hyn yn hawdd drwy wylio fideo byr. Bydd y cymerwr galwadau 999 yn dweud wrthych sut i roi cymorth adfywio cardiopwlmonaidd ond mae angen i ni gyd fod yn barod i weithredu'n gyflym fel y gallwn helpu ein gilydd.  

Wrth fyfyrio ar y neges a fyddai'n ei rhoi i griw'r ambiwlans awyr a fu'n ei drin ar y diwrnod, dywedodd Anthony: “I ddechrau, diolch o waelod calon am yr hyn a wnaethant i fi ac am yr hyn maent yn ei wneud yn ddyddiol. Maen nhw'n griw o bobl anhygoel. Diolch yn fawr iawn am yr hyn a wnaethoch ac am bopeth rydych yn ei wneud. Alla i ddim mynegi digon pa mor ddiolchgar ydw i. Hebddynt, a heb y bobl a'm helpodd, fyddwn i ddim yma. Rwy'n teimlo'n fythol ddiolchgar i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.

Caiff ei darparu drwy drydydd sector unigryw a phartneriaeth sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Fel gwasanaeth i Gymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Llyn: Anthony, canol, gyda Glyn a Dean