Neidio i'r prif gynnwy

Beiciwr mewn perygl o golli coes ar ôl 'cwymp syml' oddi ar y beic - nes cyrraedd EMRTS

Richard Hunt

Roedd Richard Hunt yn ymweld â Chymru ar gyfer penblwydd ffrind pan wnaeth diwrnod hwyliog ym Mharc Beicio Dyfi droi yn hunllef.

Ar 23 Mawrth 2024, roedd Richard, beiciwr mynydd profiadol, yn mwynhau ei amser yng Nghymru pan arweiniodd yr hyn a ymddangosodd fel 'cwympiad syml' at anafiadau difrifol.

Galwyd 999 am gymorth, gan ddwyn sylw Ymarferydd Gofal Critigol EMRTS a oedd yn gweithio yn yr Hwb Gofal Critigol.

Mae'r Hwb Gofal Critigol, 'y ddesg', yn rhan hanfodol o wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS. Caiff pob galwad ffôn 999 ei monitro gan ymarferydd a dosbarthwr gofal critigol, 24 awr y diwrnod, er mwyn canfod lle bydd angen ymyriadau gofal critigol ar rywun.

Pan gyrhaeddodd yr ambiwlans ffordd, roedd Richard yn gorwedd ar y llwybr mynydd yn effro ac mewn poen eithriadol.

Oherwydd difrifoldeb ei anafiadau, cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei alw o'i safle yn y Trallwng. Y criw a ddaeth i helpu oedd yr Ymarferwyr Gofal Critigol, Carl Hudson a Mike Ainslie.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.

Richard Hunt rescue 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Wrth fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd i Richard, o Leeds, dywedodd: “Er ei bod yn gwymp syml, achosodd grym y ddamwain i asgwrn y forddwyd gael ei wthio o fy mhen-glin a oedd yn golygu bod fy nghoes wedi ei throi ar ongl o 90 gradd. Lleihaodd hyn lif y gwaed i fy nghoes, a oedd yn golygu bod y pwls yn fy nhroed yn wan.

“Roedd risg y byddwn yn colli fy nghoes.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru ar gael i ofalu am y rhai sy'n dioddef anaf neu salwch sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff.

Aeth ymlaen i ddweud: “Cyrhaeddodd yr ambiwlans awyr ac ar y pwynt hwnnw, sylweddolais nad oedd ateb syml.

“Rhoddwyd meddyginiaeth gref i mi, gan gynnwys gwrthfiotigau i atal haint yn y clwyf. Cefais hefyd fy llonyddu, cyn iddynt osod fy nghoes yn syth a'i rhoi mewn sblint – gan wella'r llif gwaed a'r pwls yn fy nhroed.”

“Heb ofal Ambiwlans Awyr Cymru, gallwn fod wedi colli fy nghoes, neu hyd yn oed gwaeth.”

Fel arfer dim ond mewn ysbyty y byddai'r triniaethau a gafodd Richard ar gael, ond diolch i'r meddygon a'r cyfarpar arbenigol gan Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd y triniaethau yn y parc beicio.

Pan oedd yn sefydlog, cafodd Richard ei hedfan yn uniongyrchol i'r Ganolfan Trawma Mawr yn Stoke, lle cafodd ddwy lawdriniaeth frys a threuliodd ddeg diwrnod yn yr ysbyty yn gwella.

Richard Hunt leg

Aeth y dyn 40 oed ymlaen i gael cymorth gan Wasanaeth Ôl-ofal yr Elusen, a chafodd ei gyflwyno i Hayley Whitehead-Wright, Nyrs Cyswllt Cleifion, sydd â'r rôl o gefnogi cleifion a'u teuluoedd ar ôl digwyddiad trawmatig a sydyn sydd fel arfer yn newid bywydau.

Dywedodd Richard: “Ar ôl dychwelyd gartref, gwnaeth Gwasanaeth Ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru gysylltu â mi – gwasanaeth doeddwn i ddim yn gwybod am ei fodolaeth. Roedd Hayley, y Nyrs Cyswllt Cleifion yn garedig iawn, ac esboniodd yr hyn a ddigwyddodd i mi. Ond mae wedi fy helpu i yn ogystal â fy nheulu i ddod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd, ac mae wedi cynnig cymorth i fy ffrind a oedd gyda mi ar y diwrnod hwnnw.”

Dywedodd Hayley, a ymunodd â'r gwasanaeth nôl yn 2022: “Yn Ambiwlans Awyr Cymru rydym ni'n deall bod anaf neu salwch sydyn ac annisgwyl yn effeithio ar bawb sy'n rhan ohono. Fel Richard, mae llawer o'n cleifion yn byw eu bywydau fel yr arfer pan fydd rhywbeth ofnadwy'n digwydd.

 Diolch byth, llwyddodd y tîm i fynd â'r ysbyty at Richard yn uniongyrchol, gan roi iddo'r cyfle gorau posibl i wella.

“Pwrpas fy rôl i fel Nyrs Cyswllt Cleifion yw cefnogi cleifion a'u teuluoedd ar ôl digwyddiadau annisgwyl sy'n newid bywyd, ac ers i Richard fod angen ein gwasanaeth, rwyf wedi gallu ateb unrhyw gwestiynau yr oedd ganddo am ei ddamwain.”

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Parhaodd Hayley: “Yn anffodus, nid yw'r hyn a ddigwyddodd i Richard yn unigryw. Rydym yn ymateb i filoedd o gleifion bob blwyddyn, a dim ond gyda chymorth ein cefnogwyr ymroddedig y gallwn barhau i wneud hynny.”

Ers hynny, mae Richard wedi ailymuno â'r criw ac mae'n hynod ddiolchgar am y gwasanaeth sy'n achub bywydau.

Dywedodd: “Dydw i ddim yn dod o Gymru, ond mae gwybod bod y gwasanaeth yno yng Nghymru ac ar gael i alw arno os bydd angen yn anhygoel, a byddaf yn fythol ddiolchgar i'r rhai a wnaeth fy helpu a'r rhai sy'n cefnogi'r elusen hon.

“Gwnaeth Hayley hefyd fy rhoi mewn cysylltiad â'r criw a achubodd fy nghoes oherwydd roeddwn am wneud yn siwr eu bod nhw'n iawn ar ôl y digwyddiad – ni all fod  yn hawdd gweld rhywbeth fel yna. Er fy mod i'n dal i wella, gallaf bellach symud o gwmpas ac rydw i'n cryfhau bob dydd.”

Mae Richard bellach am roi'n ôl i'r Elusen a wnaeth ei helpu, ac mae wedi gosod her codi arian enfawr iddo'i hun – 'The Chillswim': Triple Crown Challenge.

Mae'r digwyddiad nofio dŵr agored, sy'n cyfateb i gyfanswm o tua 24 milltir, yn ei gwneud yn ofynnol i gyfranogwyr gwblhau tair taith nofio ar wahân yn llynnoedd mwyaf Ardal y Llynnoedd o fewn yr un flwyddyn galendr.

Cânt eu cynnal dros ychydig o fisoedd, gan ddechrau yn Coniston, yna Ullswater i ddilyn ac yna Windermere.

Dywedodd Richard, yn benderfynol: “Bu'n gyfnod anodd, yn feddyliol ac yn gorfforol ers y ddamwain. Ond bellach rwy'n teimlo fy mod mewn lle da i ddechrau rhoi'n ôl i'r gwasanaeth anhygoel a roddodd fy mywyd nôl i mi. Mae'r hyfforddiant yn mynd yn dda, mae fy mhellter yn y pwll yn fyr ar hyn o bryd ond rwy'n canolbwyntio ar gysondeb ar hyn o bryd; gan gynnwys cryfhau fy nghoes a throi fy mreichiau yn y pwll.

Yn myfyrio ar y gwasanaeth 24 awr, dywedodd Richard: “Efallai ein bod ni'n dibynnu arnyn nhw i'n hachub ni, ond maen nhw'n dibynnu arnon ni i allu gwneud gwaith achub bywyd, braich neu goes, a gall pob cymorth y gallwn ei roi wneud y gwahaniaeth rhwng rhywun yn gweld eu teulu eto, neu beidio. Ni fydd diolch fyth yn ddigon.”