Mae anesthetydd dan hyfforddiant wedi ennill gwobr genedlaethol am ei ymroddiad wrth weithio gydag ACCTS Cymru.
Craig Sell yw derbynnydd diweddaraf Gwobr Geoff Clark, a gyflwynir yn flynyddol i'r hyfforddai anesthetig yng Nghymru sydd wedi cyflawni fwyaf o gyfnod o hyfforddiant neu brofiad y tu allan i'r rhaglen.
Fe'i sefydlwyd er cof am y diweddar Dr Geoff Clark a chwaraeodd ran ganolog yn sefydlu Ysgol Anesthesia Cymru ym 1996.
Dywedodd Craig: "Roedd yn anrhydedd enfawr cael fy nghydnabod â Gwobr Geoff Clark am fy mhrofiad y tu allan i'r rhaglen gydag ACCTS Cymru (Gwasanaeth Trosglwyddo Gofal Critigol Oedolion).
“Rwy’n hynod ddiolchgar i dimau ACCTS/EMRTS ac Uned Gofal Dwys Bae Abertawe am y cyfle a’r buddsoddiad yn fy hyfforddiant, ac am fy ngwneud yn rhan o’r tîm.
“Mae wedi atgyfnerthu fy nghred yn unig y gallwn ac y dylem ddarparu mynediad cyfartal at ofal critigol a gwasanaethau arbenigol i gleifion ledled Cymru, waeth ble maen nhw wedi’u lleoli. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r gwasanaeth.”
Ychwanegodd Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ACCTS Cymru, Dr Mike Slattery: "Mae Craig wedi dangos twf sylweddol fel clinigwr a chydweithiwr yn ystod ei gyfnod gyda'r gwasanaeth.
"Gyda rhanbartholi cynyddol gwasanaethau arbenigol, mae'n bwysig meithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr trosglwyddo er mwyn sefydlu sylfaen gynaliadwy i ganiatáu i ACCTS Cymru barhau i gael gwared ar y rhwystr o bellter oddi wrth ofal arbenigol."
"Caniatáu i ACCTS Cymru barhau i gael gwared ar y rhwystr pellter oddi wrth ofal arbenigol, newid y naratif o 'rhy sâl i drosglwyddo' i un o fod yn 'rhy sâl i aros', a symud cleifion sydd angen ein gofal arbenigol fwyaf."
Mae enillwyr blaenorol gwobr Geoff Clark sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i EMRTS/ACCTS yn cynnwys Dr Owen McIntyre, a oedd yn dderbynnydd cyntaf y wobr yn 2011; Dr Ami Jones yn 2012; Dr Louise Webster yn 2013; Dr Matt Creed yn 2020 a Dr Crawford Deane yn 2021.