Dydd Iau 9 Chwefror 2017
Mae merch fach wedi cael ei hailuno â meddygon y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) a achubodd ei bywyd - flwyddyn ar ôl iddynt ei thrin am gyflwr yr ysgyfaint a oedd bron yn angheuol.
Heddiw, mae Ellie Purcell, 18 mis oed o Landysul yng Ngheredigion, yn blentyn bach disglair a byrlymus y mae ei mam Sarah Beard yn ei ddisgrifio fel un 'llewyrchus'.
Ym mis Medi 2015 roedd pethau'n wahanol iawn pan oedd Ellie, babi pedwar mis oed ar y pryd, yn ymladd am ei bywyd yn dilyn gwaedu ar ei hysgyfaint. Roedd angen gofal brys arni ar unwaith.
Gydag amser o’r hanfod, hedfanodd Ambiwlans Awyr Cymru i Blant (adran arbenigol Elusen Ambiwlans Awyr Cymru) Ellie i uned arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Mae Ymgynghorwyr y GIG ac Ymarferwyr Gofal Critigol (CCP) ar fwrdd Ambiwlans Awyr Cymru yn rhan o EMRTS Cymru. Ymhlith y meddygon oedd ar ddyletswydd y diwrnod hwnnw roedd Dr David Rawlinson.
Dywedodd Dr Rawlinson: “Pan aethon ni at Ellie roedd hi’n cael trafferth anadlu ac nid oedd yn ymateb. Roedd yn ddifrifol wael ac roedd angen ymyriadau uwch arni gan gynnwys cynhesu, hylifau, gwrthfiotigau a mewndiwbio. Yn dilyn cyflwyno'r rhain, a sefydlogi, bu modd i ni ei throsglwyddo'n uniongyrchol i ofal arbenigol yn yr Uned Gofal Dwys Pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
“Cyn EMRTS, byddai wedi cael ei rhuthro ar y ffordd i’r ysbyty lleol heb fawr o driniaeth, a byddai wedi bod angen trosglwyddiad eilaidd a fyddai wedi gohirio gofal arbenigol.”
Flwyddyn ar ôl ei hachub, ymwelodd Ellie a'i mam â maes awyr newydd yr Elusen yn Nafen, ger Llanelli, i gwrdd â'r meddygon a ddaeth i'w chynorthwyo.
Dywedodd y CCP Tracy Phipps, a oedd hefyd yn rhan o’r tîm meddygol: “Y tro diwethaf i ni weld Ellie roedd hi’n wael iawn. Rwyf mor hapus i’w gweld eto a’i bod yn gwneud mor dda.”
Ar ôl triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dychwelodd Ellie adref ac mae wedi gwneud cynnydd da.
Dywedodd Sarah Beard: “Roeddwn yn meddwl yn onest y byddwn yn ei cholli. Pan gyrhaeddon ni'r ysbyty ar y diwrnod dywedon nhw wrthym ei bod hi'n llythrennol wedi cael munudau. yn
“Roedd yn anhygoel cwrdd â’r meddygon gan fy mod yn teimlo nad oeddwn i’n diolch digon iddyn nhw ar y pryd oherwydd roeddwn i wedi gwirioni cymaint ag Ellie.”