Dydd Mercher 31 Hydref 2018
Mae meddygon EMRTS Cymru, Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (WAA) a pheilotiaid Babcock yn coffáu 100 mlynedd ers arwyddo’r Cadoediad trwy addurno ei hawyren goch eiconig yn Ne Cymru gyda 100 o babïau.
Wrth inni agosáu at Ddydd y Cofio ar 11 Tachwedd, mae’r genedl yn dod at ei gilydd i gydnabod arwyddocâd diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a’r aberth a wnaed gan gynifer o ddynion a merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a holl wrthdaro eraill y gorffennol.
Yn ogystal â'r 100 pabi, mae gan hofrennydd De Cymru '100' mewn llythrennau aur ar draws ei drwyn. Mae pencadlys yr Elusen yn Nafen ar hyn o bryd yn chwifio baner goffa sy'n dwyn y geiriau eiconig 'Lest We Forget'. Bydd hofrenyddion WAA yng Nghaernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd hefyd yn cario pabi fel arwydd o barch.
Mae Capten Grant Elgar, cyn beilot Gazelle yn y Fyddin Brydeinig, bellach yn Uwch Beilot Babcock ar gyfer WAA. Meddai: “Mae llond llaw o’r peilotiaid a’r meddygon sy’n gweithio ar fwrdd yr hofrenyddion WAA naill ai’n gyn-bersonél milwrol neu’n gwasanaethu ar hyn o bryd. Teimlai pob un o’n criwiau ledled Cymru ei bod yn bwysig inni nodi’r achlysur hwn yn barchus a chydnabod aberth eraill. Bob tro y bydd ein hofrenyddion yn mynd i’r awyr dros y pythefnos nesaf bydd yn anrhydedd i’n harwyr.”
Mae Meddyg Hedfan Cymreig Dr Ami Jones hefyd yn Is-gyrnol yng Nghronfeydd Wrth Gefn y Fyddin gyda’r Ysbyty Maes 203. Meddai: “Mae’r rhai ohonom sydd wedi bod yn rhan o’r lluoedd arfog yn deall yr effaith y mae gwrthdaro yn ei gael, nid yn unig ar yr unigolyn ond ar eu teulu a’u ffrindiau. Mae pobl sy’n barod i wneud yr aberth mwyaf yn haeddu’r parch mwyaf ac mae ein gwasanaeth yn dangos ein gwerthfawrogiad mewn ffordd urddasol.”