Dydd Iau 5 Ebrill 2018
Mae clinigwr uchel ei barch ac arweinydd mewn meddygaeth cyn ysbyty wedi bod yn gyfrifol am wasanaeth meddygon hedfan Cymru.
Mae’r Athro David Lockey wedi dechrau ar ei rôl fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS Cymru, y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru), a adwaenir hefyd fel y ‘Welsh Flying Medics’.
Mae’r Gwasanaeth yn darparu gofal critigol cyn ysbyty arloesol a ddarperir gan feddygon ymgynghorol ledled Cymru, yn yr awyr ac ar y ffyrdd. Fe’i cyflawnir trwy bartneriaeth bwysig gydag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru (WAA), ymddiriedolaeth elusennol sy’n dibynnu’n llwyr ar haelioni a chefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i helpu i gadw’r hofrenyddion i hedfan.
Mae meddygon EMRTS Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o GIG Cymru. Maen nhw’n dîm hyfforddedig iawn o feddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol sydd, gan weithio gyda’r WAA, yn mynd â’r adran damweiniau ac achosion brys i’r claf, ble bynnag y mae yng Nghymru. Mae’r Gwasanaeth yn cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) ar ran GIG Cymru.
Yn ei rôl ddiweddaraf, yr Athro Lockey oedd Cyfarwyddwr Clinigol Trawma Mawr Rhwydwaith Trawma Mawr Hafren. Mae hefyd yn ymgynghorydd mewn Meddygaeth Gofal Dwys ac Anesthesia ym Mryste ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd y Gyfadran Gofal Cyn Ysbyty yng Ngholeg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin. Mae ei ofal cyn ysbyty wedi bod yn bennaf fel Ymgynghorydd ac Arweinydd Ymchwil yn Ambiwlans Awyr Llundain. Mae hefyd yn ymddiriedolwr elusen Ambiwlans Awyr Llundain. Mae gan David brofiad sifil a milwrol helaeth o feddygaeth cyn ysbyty ac mae wedi cyhoeddi’n eang ac wedi cydweithio’n rhyngwladol yn y maes.
Fel arweinydd trosiannol y Rhwydwaith Trawma Mawr yn Ne Cymru, mae’r Athro Lockey yn cefnogi Rhaglen Gydweithredol y GIG yng Nghymru i sefydlu’r rhwydwaith trawma.
Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol PABM: “Mae’r Athro Lockey yn glinigydd uchel ei barch ac yn arweinydd mewn meddygaeth cyn ysbyty gyda chyfoeth o brofiad. Rydym yn ffodus i fod wedi gallu ei benodi i oruchwylio cam nesaf datblygiad EMRTS Cymru, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion yng Nghymru, diolch i’w dîm ymroddedig o glinigwyr a rheolwyr a chefnogaeth sylweddol Llywodraeth Cymru a Ambiwlans Awyr Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda David.”
Dywedodd Angela Hughes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch iawn o groesawu’r Athro Lockey i’r bartneriaeth. Mae ei arbenigedd a’i ymroddiad i’r maes heb ei ail, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd ei effaith gadarnhaol yn lledaenu ar draws ein sefydliadau ac o fudd i Feddygon Hedfan Cymru yn gyffredinol.”
Dywedodd yr Athro David Lockey : “Mae EMRTS Cymru wedi gwneud argraff fawr arnaf, sydd eisoes wedi cyflawni cymaint yn yr amser byr ers ei sefydlu. Mae hyn yn deyrnged i’r tîm a’i sefydlodd ar seiliau mor gadarn ac rwy’n gyffrous am y cyfle y mae fy mhenodiad yn ei roi i mi weithio gyda’r gwasanaeth a’i randdeiliaid ac i helpu gyda’i ddatblygiad parhaus dros y tair blynedd nesaf.”
Mae’r Athro Lockey yn cymryd yr awenau oddi wrth Dr Ami Jones sydd wedi arwain y Gwasanaeth dros dro ers mis Ebrill 2017, yn ogystal â pharhau â’i rôl fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Nevill Hall ac Is-gyrnol yn y Fyddin Brydeinig. Fis Gorffennaf diwethaf, derbyniodd MBE am wasanaeth i'r fyddin ac Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd Dr Jones yn parhau i fod yn ymgynghorydd gyda'r 'Flying Medics'.
Wrth dalu teyrnged i Dr Jones, dywedodd yr Athro Laing: “Mae wedi bod yn bleser enfawr gweithio gydag Ami dros y deuddeg mis diwethaf ac mae ei hegni, ei phroffesiynoldeb a’i doethineb wedi creu argraff arnaf wrth iddi arwain y gwasanaeth. Mae David yn cymryd drosodd gwasanaeth hynod effeithiol sydd wedi’i lywodraethu’n dda y gallwn adeiladu ar seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol.”